Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 11 Hydref 2017.
Diolch. A fyddech yn cytuno â mi ei fod yn ymwneud â Llywodraethau’n gweithio gyda’i gilydd, ac felly, pan fyddwn yn gadael yr UE a bod modd gostwng y trothwy TAW a’r ardrethi i annog pobl i fuddsoddi yn ein gwlad, fod angen i Lywodraethau weithio gyda’i gilydd ar fater ardrethi busnes a TAW? Oherwydd pan dynnodd Gordon Brown 5 y cant i ffwrdd, a’i ostwng o 20 y cant i 15 y cant, roedd y gwahaniaeth a wnaeth hynny i fusnesau bach, gallaf ddweud wrthych, yn anhygoel. Fe gyflogodd pobl staff newydd â hwnnw, felly—.