Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 11 Hydref 2017.
A dyma ni’n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r bleidlais, a’r bleidlais honno ar ddadl UKIP ar ardrethi busnes. Rydw i’n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid pump, neb yn ymatal, 43 yn erbyn, ac felly mae’r cynnig wedi ei wrthod.