Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 17 Hydref 2017.
Mae ein cynlluniau i'w gweld, wrth gwrs, yn y strategaeth genedlaethol. Mae gennym ni bresenoldeb cryf o gwmnïau sy'n darparu gwasanaethau fferyllol, ac mae gennym ni hanes profedig o gefnogi treialon clinigol a gwasanaethau fferyllol yma yng Nghymru, a bydd hynny'n parhau yn y dyfodol.