Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 17 Hydref 2017.
Prif Weinidog, dywedodd Andrew Evans, ar ôl iddo gael ei benodi’n brif swyddog fferyllol Cymru, ac rwy'n dyfynnu:
Mae fferyllwyr yng Nghymru yn chwarae rhan ganolog yn ymgyrch llywodraeth Cymru i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion yn brydlon ac yn nes at eu cartrefi. Edrychaf ymlaen at weithio gyda fferyllwyr a phroffesiynau iechyd a gofal eraill, gan adeiladu ar y gwelliannau sylweddol yr ydym ni eisoes wedi eu gwneud.
A all y Prif Weinidog gadarnhau eto bod y diwydiant fferyllol yng Nghymru yn allweddol i ymgyrch Llywodraeth Cymru i gyfarparu gwasanaeth iechyd gwladol Cymru i wasanaethu ei gleifion yn y blynyddoedd i ddod, a hefyd ein diweddaru ar sut y mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo?