Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 17 Hydref 2017.
Wel, mae'n iawn i ddweud bod dros £120 miliwn wedi cael ei ddyrannu ar gyfer prosiectau AB yn ystod y rhaglen band A. Rydym ni wedi gweld canlyniadau hynny. Darparwyd dros £10.6 miliwn o gyllid cyfalaf i sefydliadau AB i uwchraddio eu hoffer a’u sgiliau TG. Yn ystod y don nesaf o fuddsoddiad—band B—rydym ni’n gweithio gyda cholegau AB i ddatblygu eu cynlluniau buddsoddi ar gyfer y don nesaf hon fel y gallwn ddeall lle ddylai buddsoddiad ddod. Ac rydym ni’n annog sefydliadau AB i gyflwyno prosiectau buddsoddi a fydd o fudd iddyn nhw fel sefydliadau.