<p>Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 17 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:37, 17 Hydref 2017

Pa gamau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod yr arian sydd ar gael o fewn cyllideb ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn cael ei ddefnyddio i ehangu addysg Gymraeg? Oherwydd rydym ni’n gwybod, er enghraifft, fod yna raddfa gefnogaeth uwch ar gyfer ysgolion ffydd—mae’n 85 y cant, o beth ydw i’n ei ddeall, yn hytrach na 50 y cant ar gyfer ysgolion yn fwy cyffredinol. A fyddech chi yn barod i ystyried rhyw ddull tebyg i hynny, o bosibl, er mwyn sicrhau eich bod chi’n cyrraedd eich targedau o safbwynt miliwn o siaradwyr?