<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 17 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:43, 17 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Nid ydym ni mewn sefyllfa eto—wel, nid wyf i yn y sefyllfa—lle gallwn argymell i'r Cynulliad hwn y dylem ni gefnogi'r Bil ymadael. Cefais gyfarfod ag ef a chydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Rwy’n credu ei bod yn deg dweud bod gwell dealltwriaeth o'n penderfyniad i beidio â chefnogi'r Bil oni bai y rhoddir sylw i gipio pŵer, ac rwy’n credu ei bod yn deg dweud ei fod yn gyfarfod gwell na chyfarfodydd blaenorol. Efallai fod y fathemateg yn Nhŷ'r Cyffredin wedi ei ddeall gan Lywodraeth y DU erbyn hyn, ond nid ydym mewn sefyllfa eto lle gallwn argymell y dylid cefnogi'r Bil. Mae angen i ni weld camau gan Lywodraeth y DU nawr i wneud yn siŵr bod y camau cipio pŵer hynny’n cael eu dileu.