<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 17 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:45, 17 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'n bosibilrwydd sy’n peri pryder eithriadol. Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen, dim cytundeb yw’r cytundeb gwaethaf. Byddai gadael o dan amgylchiadau anhrefnus yn ddrwg i bawb. Y pryder sydd gen i yw na fydd cynnydd digonol erbyn mis Mawrth 2019 fel mai dim cytundeb fydd y safbwynt diofyn. Mae hynny'n rhywbeth y mae hi a minnau o’r un safbwynt yn union yn ei gylch, o ran dweud y byddem ni’n gwrthwynebu hynny. Mae'n hollbwysig bod cytundeb ar y bwrdd sy'n galluogi busnesau Cymru i gael mynediad at y farchnad sengl ar yr un telerau ag ar hyn o bryd.