Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 17 Hydref 2017.
Yn gyntaf oll, y peth gwaethaf i economi Cymru fyddai Brexit anhrefnus; dyna'r peth gwaethaf oll. Mae gennym ni brif economegydd sy'n cynghori'r Llywodraeth. Rydym ni’n ymgynghori â busnesau trwy gyrff fel y Cyngor Datblygu’r Economi, ac yn y modd hwnnw, mae gennym ni’r wybodaeth sydd ei hangen arnom i symud economi Cymru yn ei blaen. Ond mae'n siarad fel pe na byddai gennym ni unrhyw beth o ran cyngor. Mae gennym ni brif economegydd ac adran sy’n rhoi cyngor i ni.