<p>Masnachfraint Cymru a'r Gororau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 17 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:52, 17 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Roedd yr achos busnes gwreiddiol yn 2012, sef y sail ar gyfer y penderfyniad trydaneiddio, yn cynnwys pedwar trên trydan yr awr rhwng Abertawe a Chaerdydd, gan gynnwys gwasanaethau lleol, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Nawr, pe byddai Llywodraeth Cymru wedi cynnwys gofyniad am wasanaethau trydan lleol yn y fanyleb fasnachfraint fanwl, yn unol â’r achos busnes gwreiddiol hwn, byddai'r Adran Drafnidiaeth wedi ei chael fwy neu lai yn amhosibl gwrthod trydaneiddio. Felly, onid yw Llywodraeth Cymru wedi colli cyfle yn y fan yma? Beth ydych chi'n mynd i’w wneud nawr, o ystyried y sefyllfa yr ydym ni ynddi erbyn hyn, i ddatrys y ffaith nad yw Abertawe'n mynd i gael y trydaneiddio a addawyd iddi?