Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 17 Hydref 2017.
Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd trydaneiddio’r brif reilffordd o Lundain i Abertawe o ran mynd trwy Ben-y-bont ar Ogwr, Prif Weinidog. Rwy'n credu bod hynny’n hynod bwysig. Rwy’n credu bod y neges y mae'n ei gyfleu i ddarpar fuddsoddwyr o ba mor bwysig yr ydych chi’n credu yw ardal pan eich bod chi'n atal y trydaneiddio 40 milltir i ffwrdd yn anfantais ddifrifol i'r rheini ohonom ni sy'n byw i'r gorllewin o Gaerdydd. A wnaiff y Prif Weinidog barhau i gefnogi trydaneiddio'r rheilffordd o Gaerdydd i Abertawe?