<p>Masnachfraint Cymru a'r Gororau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 17 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:55, 17 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu mai dyna fyddai orau. O ran y cytundeb masnachfraint, mae cynnydd yn cael ei wneud yn hynny o beth erbyn hyn. Roedd rhywfaint o rwystrau yr oedd angen eu clirio; maen nhw wedi eu clirio. Y peth trist yw bod Llywodraeth y DU yn gwrthod caniatáu unrhyw fath o reolaeth i bobl Cymru dros eu rhwydwaith rheilffyrdd eu hunain. Nid oes gennym ni’r pŵer i gyfarwyddo Network Rail hyd yn oed—mae gan yr Albanwyr; ni allwn gyfarwyddo Network Rail hyd yn oed. Y gwir yw mai dim ond 1.5 y cant o fuddsoddiad rheilffyrdd sy'n dod i Gymru. Nawr, dylai'r gyfran honno fod yn 6 y cant neu’n 6.2 y cant yn seiliedig ar gyfran Barnett; rydym ni’n cael 1.5 y cant. Mae'n chwerthinllyd. Ar ben hynny, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod bod yr Albanwyr yn gallu edrych ar gorff sector cyhoeddus dielw, hyd braich, fel dewis ar gyfer rhedeg eu rheilffyrdd. Cawsom ni ein gwahardd yn benodol rhag gwneud hynny ar y sail, yn ôl pob tebyg, y byddem ni, mewn rhyw ffordd, yn halogi gorsafoedd Lloegr â syniadau rhyfedd am wasanaethau rheilffyrdd dielw sy’n cael eu rhedeg yn dda. Ond dyna'r gwahaniaeth rhwng y driniaeth o Gymru a Lloegr a'r Alban gan y Llywodraeth Geidwadol hon. Pan ddaw i reilffyrdd, nid ydym yn cael unrhyw chwarae teg o gwbl; rydym ni’n cael addewidion wedi’u torri. Ond rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn gwneud iawn am eu diffygion.