<p>Cod Ymddygiad Swydd y Prif Weinidog</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 17 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:08, 17 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Gadewch i mi weld. Gadewch i ni edrych yn fanwl ar ei swydd fel gwleidydd. Nid yw wedi gwneud yn dda o ran gwneud honiadau—honiadau gwyllt—yn y llysoedd yn y gorffennol. Mae wedi canfod ei hun mewn sefyllfa lle mae'r ombwdsmon wedi ei ddisgyblu, os cofiaf yn iawn, o ran ei ymddygiad fel cynghorydd, ac mae wedi cael ei ddiarddel o grŵp ei blaid ei hun. A gaf i awgrymu ei fod yn edrych yn ofalus iawn ar ei hun yn gyntaf cyn beirniadu unrhyw un arall?