Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 17 Hydref 2017.
Prif Weinidog, roeddwn i wrth fy modd o gael cymryd rhan yng ngorymdaith Pride gyntaf Caerdydd ychydig flynyddoedd yn ôl. Doeddwn i ddim yn dod allan, gyda llaw; cynrychioli fy mhlaid oeddwn i. Roedd yn ddigwyddiad gwych, fel y mae'r mudiad Pride ei hun. Yn dilyn ymlaen o'r hyn a ddywedodd Hannah Blythyn, mae'r digwyddiadau hyn—ac rwy'n croesawu Balchder Sir y Fflint—yn tueddu i fod yn gysylltiedig, neu wedi bod yn y gorffennol, â dinasoedd ac ardaloedd trefol, sy'n wych cyn belled ag y mae'n mynd. A wnaiff Llywodraeth Cymru edrych ar ffyrdd o gynyddu amrywiaeth a pherthnasedd Pride ar draws pob rhan o Gymru, yn enwedig ardaloedd gwledig, fel y gall pobl o bob cwr o'r wlad elwa ar ysbryd Pride a'r rhyddid y mae'n ei gynnig?