Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 17 Hydref 2017.
Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae gwyl ffilm Gwobr Iris wedi bod yn cael ei chynnal yma yng Nghaerdydd. Mae’n cynrychioli’r wobr ffilm hoyw fwyaf yn y byd, a’r wobr ffilm fer fwyaf o unrhyw fath. A gaf i ofyn i’r Prif Weinidog longyfarch y trefnwyr a’r gwirfoddolwyr am eu llwyddiant? Dylwn i ddatgan buddiant: roeddwn i yno am y rhan fwyaf o’r wyl, ac mae’n cael ei chynnal gan gyfaill imi. A gaf i ofyn: beth yn fwy y gallwn ei wneud i helpu gwyl Iris i ymestyn ei neges o falchder ar draws Cymru, fel y clywsom ni, gan feddwl yn arbennig am y Cymry Cymraeg hefyd, lle mae yna waith i’w wneud, rwy’n credu, o asio’r cwestiwn o falchder o ran rhywioldeb a hefyd balchder yn ein hiaith a’n diwylliant ni?