<p>Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 17 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 2:14, 17 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i longyfarch y Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies AC, am y ffordd frwdfrydig ac egnïol y mae wedi lansio ei dasglu Cymoedd gweinidogol? Mae'r tasglu wedi datgan y bydd hefyd yn archwilio cysyniad parc tirlun y Cymoedd i helpu cymunedau lleol i adeiladu ar lawer o asedau naturiol, gan gynnwys y potensial ar gyfer cynhyrchu ynni cymunedol a thwristiaeth. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r potensial y mae Llywodraeth Cymru yn ei weld o ran cynorthwyo cymunedau Islwyn i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn mwynhau llwybr gyrru coedwig Cwmcarn â’i olygfeydd godidog? A gaf i hefyd wahodd y Prif Weinidog yn bersonol i ddod gyda mi i ymweld â llwybr gyrru coedwig Cwmcarn a mwynhau un o ryfeddodau niferus Cymru?