<p>Tai o Ansawdd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 17 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:15, 17 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Un o'r newidiadau yr wyf i wedi bod yn falch ohonyn nhw dros yr 20 mlynedd diwethaf yw bod safon tai cyhoeddus cystal, os nad yn well na rhai tai preifat erbyn hyn—roedd adeg, wrth gwrs, pan ellid adnabod tai cyngor drwy’r ffaith eu bod yn aml wedi eu hadeiladu i safon is nag unrhyw le arall—ac mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni ymfalchïo ynddo. Mae safon ansawdd tai Cymru yn hynod bwysig o ran sicrhau gwelliannau i gartrefi sy'n bodoli eisoes ac, wrth gwrs, ynghyd â'r rheoliadau adeiladu, maen nhw'n ein helpu i ddarparu tai fforddiadwy gwell i bobl ar gyfer y dyfodol.