Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 17 Hydref 2017.
Wel, mae ef a minnau wedi bod ar y safle, wrth gwrs, ar safleoedd yn Abertawe lle mae cartrefi cyngor yn cael eu hadeiladu. Gwahoddwyd awdurdodau tai lleol i gyflwyno ceisiadau am gymorth ariannol o dan y rhaglen dai arloesol newydd, sy'n hyrwyddo arloesedd mewn technegau adeiladu tai, dylunio, darparu, ac, wrth gwrs, mae arian yn cael ei roi ar gael drwy'r grant tai fforddiadwy. Ond rwy'n sicr yn llongyfarch cyngor Abertawe ar yr arweinyddiaeth y maen nhw wedi ei dangos o ran adeiladu tai cyngor unwaith eto.