Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 17 Hydref 2017.
Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cymeradwyo cynlluniau i greu uned fasgwlaidd arbenigol ar gyfer y gogledd, yn Ysbyty Glan Clwyd. Nid oes dim cynlluniau i gau unrhyw adrannau fasgwlaidd eraill, a bydd y bwrdd iechyd yn parhau i drin cleifion sydd ag anghenion nad ydynt yn gymhleth ym mhob un o dri ysbyty’r gogledd.