2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 17 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:24, 17 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n credu y byddem ni i gyd yn ymuno â chi, Simon Thomas, wrth longyfarch yr enghraifft wych hon o berson ifanc yn cymryd awenau yr ymgyrch hon—apêl baner Elly ar gyfer ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae'n amlwg yn gwneud cynnydd o ran yr achos busnes, a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, sydd yma, wedi clywed eich cais am yr wybodaeth ddiweddaraf, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n digwydd.