Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 17 Hydref 2017.
Rwyf hefyd yn mynd i ofyn am ddau ddatganiad. A’r un cyntaf yr hoffwn ei gael, arweinydd y tŷ, yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch pa un a fydd yn ystyried edrych ar gynyddu'r term mwyaf o garchar am gam-drin anifeiliaid o chwe mis i bum mlynedd. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i gynyddu uchafswm y ddedfryd carchar y gall ynadon ei rhoi i bum mlynedd, a chredir y bydd Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn cael ei defnyddio fel mandad dros newid ar gyfer cynyddu dedfrydau.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu dau erlyniad llwyddiannus yn fy etholaeth i, lle mae bridwyr cŵn bach wedi eu cael yn euog o greulondeb ac esgeulustod. Roedd yr anifeiliaid hynny yn cael eu cadw dan yr amodau mwyaf erchyll heb hyd yn oed y gofal mwyaf sylfaenol, ac fe wnaethon nhw ddioddef yn ofnadwy. Ond yr hyn a’m tarodd i oedd, er gwaethaf y dioddefaint ofnadwy a achoswyd, y ddedfryd hiraf a roddwyd oedd dim ond pum mis. Yr unig ddedfryd arall a roddwyd oedd dedfryd o naw wythnos wedi’i gohirio am ddwy flynedd. Rwy’n credu bod y dedfrydau hynny'n rhy drugarog o lawer, a chredaf fod angen inni fynd i'r afael â'r mater hwn ar frys os ydym ni o ddifrif ynghylch bod yn wlad sy'n diogelu anifeiliaid.
Yr ail ddatganiad yr wyf yn gofyn amdano yw datganiad ar gaethwasiaeth neu fasnachu pobl. Fi yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar fasnachu pobl yn y Cynulliad, a chawsom gyfarfod cyntaf y tymor y bore ’ma, a daeth nifer helaeth o arbenigwyr o bob cwr o Gymru iddo. Maen nhw’n darparu'r arbenigedd i geisio rhoi terfyn ar fasnachu pobl neu gaethwasiaeth fodern, sy’n drosedd ffiaidd, ac maen nhw hefyd yn darparu cymorth i ddioddefwyr, sy'n helpu i gefnogi'r dioddefwyr hynny, ond hefyd yn helpu'r dioddefwyr hynny i adrodd eu hanesion, fel bod y rhai sy’n cyflawni’r drosedd ffiaidd hon yn cael eu herlyn yn y pen draw.
Yr oeddem ni, ac yr ydym ni o hyd—. Ni oedd y cyntaf, a ni yw’r unig wlad yn y DU o hyd sydd â chydgysylltydd atal caethwasiaeth cenedlaethol, ac nid wyf yn credu bod pobl yn sylweddoli bod hynny'n dal i fod yn wir. Ac, yn y cyfarfod y bore ’ma, gwnaeth cydgysylltydd atal caethwasiaeth Cymru yn glir fod Cymru bellach yn gweld mwy o adroddiadau am gaethwasiaeth fodern nag erioed o'r blaen, ac yng Nghymru y mae’r nifer mwyaf o erlyniadau llwyddiannus. Rydym ni’n credu bod hynny oherwydd y cynnydd mewn adroddiadau o ganlyniad i'r ymwybyddiaeth well o’r mater hwn ar draws Cymru, ochr yn ochr â'r sesiynau hyfforddiant cynhwysfawr sy'n cael eu cyflwyno i ymatebwyr cyntaf a sefydliadau anllywodraethol ar yr hyn y mae angen iddyn nhw edrych arno, a'r hyn y mae angen iddyn nhw ei ystyried wrth nodi dioddefwr posibl o gaethwasiaeth yn y lle cyntaf, neu sut i ymateb iddynt. Ac, unwaith eto, roedd yn wir bod y dioddefwyr hynny yn fwy tebygol o rannu eu hanesion â'r sefydliadau anllywodraethol, ac nid â’r awdurdodau, pan fyddant yn dod ymlaen, gan nad ydynt yn sicr yn ymddiried yn yr awdurdodau y daethant ohonynt.
Ond y mater arall, a’r mater sy’n gorgyffwrdd a nodwyd yn glir y bore yma, yw'r angen i groesgyfeirio pan fod gennym ni ffoaduriaid sy'n chwilio am loches, yn enwedig os ydyn nhw’n blant dan oed sydd ar eu pen eu hunain, ac yn debygol o gael eu targedu gan fasnachwyr caethweision—os nad ydyn nhw eisoes yn nwylo’r masnachwyr caethweision erbyn iddyn nhw gyrraedd. Ac rydym ni i gyd yn gwybod ein bod ni wedi cefnogi'r cytundeb Dubs yma yng Nghymru, ac eto mae'n wir mai ychydig iawn o blant sydd wedi dod yn ddiogel i'r DU, ac eto mae Cymru'n parhau’n agored i'r cais hwnnw.