6. 6. Dadl: Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 17 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 3:56, 17 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle i siarad am y gwaith yr ydym ni a'n partneriaid yn ei wneud i fynd i'r afael â throseddau casineb ac anoddefgarwch ledled Cymru. Rwy'n siŵr y bydd y ddadl hon, fel yn y blynyddoedd blaenorol, yn dangos yr unfrydedd bwriad sylfaenol sy’n bodoli yn y Cynulliad hwn o ran mynd i'r afael â'r camweddau hyn.

Mae’r wythnos hon, wrth gwrs, yn Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, sy'n adeg allweddol i'n partneriaid yn y trydydd sector a'r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru. Rwyf, unwaith eto, wedi sicrhau bod cyllid ar gael i'r comisiynwyr heddlu a throseddu i gefnogi gweithgareddau yn ystod yr wythnos hon. Eleni, rwyf wedi caniatáu mwy o hyblygrwydd fel bod y cyllid hefyd yn cefnogi peth gweithgarwch a fydd yn parhau yn hwy na'r wythnos troseddau casineb ei hun, ac mae angen inni ganolbwyntio ar y materion hyn trwy gydol y flwyddyn.

Mae pob trosedd casineb yn wrthun. Rydym ni wedi gweld nifer o ddigwyddiadau ofnadwy ledled y DU eleni, ac fe hoffwn i eto estyn fy nghydymdeimlad i’r dioddefwyr, eu teuluoedd, a phawb yr effeithiwyd arnynt. Fe wyddom ni fod effaith y fath erchyllterau yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r rhai a effeithir yn uniongyrchol, a hynny gyda chanlyniadau sy’n para am weddill eu hoes. Llywydd, mae’r un peth yn wir am lawer o droseddau casineb eraill. Er y gallan nhw fod ar raddfa lai ac yn aml yn osgoi sylw’r byd ehangach, mae troseddau casineb yn cael effaith ddinistriol a pharhaol ar bobl a chymunedau. Yn 2014, fe wnaethom ni lansio ‘Mynd i'r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu', sy'n nodi ein hymrwymiad i herio gelyniaeth a rhagfarn mewn cysylltiad â phob un o’r nodweddion gwarchodedig. Mae'r fframwaith yn cynnwys amcanion megis atal, cefnogi a gwella'r ymateb amlasiantaethol.

Un o nodau tymor byr y fframwaith oedd cynyddu nifer y dioddefwyr sy'n gwneud cwyn swyddogol. Rydym ni wedi cael llawer o lwyddiant yn y maes hwn, ac mae’n rhaid i ddioddefwyr fod â'r hyder i sôn am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, a gwybod sut i wneud hynny. Mae angen iddyn nhw allu sicrhau cyfiawnder, ac mae hefyd angen iddyn nhw gael cymorth ac eiriolaeth yn sgil troseddau sydd weithiau’n rhai difrifol. Y bore yma, rhyddhaodd y Swyddfa Gartref ei ffigurau troseddau casineb ar gyfer 2016-17. Maen nhw’n dangos bod 2,941 o droseddau casineb wedi eu cofnodi yng Nghymru yn ystod 2016-17, sef cynnydd o 22.3 y cant o’i gymharu â 2015-16. Mae llawer o'r cynnydd yn debygol o fod oherwydd cynnydd yn y gyfradd adrodd, ac mae hyn i’w groesawu. Mae gwybodaeth o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn dangos mai dim ond 48 y cant o ddioddefwyr troseddau casineb oedd yn hysbysu’r heddlu neu ganolfan adrodd trydydd parti am y troseddau hynny rhwng 2012 a 2015. Ers hynny, mae llawer o waith wedi'i wneud drwy'r fframwaith troseddau casineb i gynyddu ymwybyddiaeth a hyder dioddefwyr i roi gwybod am droseddau.

Mae nifer y troseddau casineb a gofnodir yng Nghymru wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, gan ddangos gwerth y gwaith y mae Llywodraeth Cymru, yr heddlu, y trydydd sector a phartneriaid eraill wedi ei wneud. Rydym ni wedi gweld cynnydd tebyg yn nifer yr achosion y mae ein canolfan genedlaethol ar gyfer cymorth ac adrodd am droseddau yn ymdrin â nhw. Y llynedd, ymdriniodd y ganolfan â 2,655 o achosion—cynnydd o 21 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Yn 2017-18, mae 1,238 o ddioddefwyr eisoes wedi cael cyngor, eiriolaeth a chefnogaeth gan y ganolfan.

Mae'r ganolfan yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pawb sydd wedi dioddef troseddau casineb yng Nghymru, ac rwyf wedi cadarnhau cyllid ar gyfer y ganolfan hyd at 2020 i sicrhau y gall y gwasanaethau barhau.

Mae ein partneriaid ar Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar gyfer Troseddau Casineb hefyd yn chwarae rhan hanfodol. Mae’r partneriaid hyn yn cynnwys y pedwar gwasanaeth heddlu, y comisiynwyr heddlu a throseddu a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Maen nhw’n archwilio prosesau ac yn sicrhau bod y system adrodd yn gweithio o’r adeg pan adroddir am y tro cyntaf i'r cam lle mae achos yn mynd i’r llys. Yn gynharach, dywedais fod rhan o'r cynnydd yn y troseddau casineb a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref yn debygol o fod oherwydd cynnydd yn nifer y dioddefwyr sy’n adrodd amdanynt. Serch hynny, Llywydd, mae'n rhaid inni bob amser gydnabod bod hyn, yn rhannol, mae’n debyg, o ganlyniad i gynnydd gwirioneddol mewn troseddau casineb yn 2016 a 2017 hefyd.

Rydym ni wedi clywed gan yr heddlu, y ganolfan genedlaethol ar gyfer cymorth ac adrodd am droseddau casineb, asiantaethau'r trydydd sector a grwpiau cymorth lleol ynglŷn â’r pryder gwirioneddol ynghylch y nifer cynyddol o droseddau casineb a gyflawnwyd y llynedd, ac ni ddylem anwybyddu'r dystiolaeth hon gan bobl brofiadol, broffesiynol ac ymroddedig sy'n ymwneud â hyn bob dydd. Maen nhw’n dweud wrthym ni, er enghraifft, am bobl sydd wedi dioddef cam-drin hiliol yn ddiweddar gan gymdogion y buon nhw’n byw drws nesaf iddyn nhw am flynyddoedd lawer nad ydyn nhw erioed wedi mynegi’r fath sylwadau o'r blaen, am bobl yn cael eu difrïo am ddim ond siarad iaith heblaw'r Saesneg—mewn rhai achosion pan mai’r iaith a ddefnyddiwyd oedd y Gymraeg—a hyd yn oed am bobl anabl yn dioddef camdriniaeth ar fysiau a threnau. Felly, mae’n rhaid inni barhau i weithio gyda'n partneriaid i wrthsefyll casineb a meithrin cydlyniant yng Nghymru, ac rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda nhw i wneud ein gwaith mor effeithiol â phosib a chreu cymunedau lle nad yw trosedd casineb yn cael ei oddef, a lle rhoddir cymaint o gefnogaeth â phosib i ddioddefwyr.

Er enghraifft, mae gennym ni gysylltiadau cryf â'n cymunedau ffydd ledled Cymru. Mae'r Prif Weinidog a minnau'n cyfarfod â'r fforwm cymunedau ffydd ddwywaith y flwyddyn—yn wir, fe wnaethom ni gyfarfod ddoe—i drafod materion sy'n effeithio ar fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yma yng Nghymru. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda grwpiau ffydd ar bob lefel er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth a meithrin cydlyniant cymunedol. Mae’n bwysig ein bod ni’n cael mynegi ein barn, yn gwrando’n barchus ar eraill a chydweithio’n well gyda’n gilydd, gan helpu i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn gymdeithas oddefgar. Rydym ni’n cydweithio'n agos â'r heddlu i fonitro ac ymateb i densiynau cymunedol, ac mae angen inni gael ymateb tymor byr effeithiol i argyfyngau ynghyd â gweithio yn yr hirdymor i feithrin cydnerthedd a chydlyniant cymunedol.

Mae tensiynau cymunedol yn creu mwy o ofn a phryder, yn bygwth heddwch a sefydlogrwydd cymunedau ac fe allan nhw hefyd arwain at drosedd, Llywydd. Mae rhai tensiynau yn amlygu eu hunain ar ffurf anhrefn, difrod neu drais corfforol. Mae effeithiau eraill yn llai gweladwy, gan wneud i bobl deimlo'n agored i niwed, wedi'u heithrio ac yn ofnus pan eu bod yn byw eu bywydau beunyddiol. Drwy fonitro tensiynau'n effeithiol, fe allwn ni ymyrryd i atal troseddau casineb a gofid. Mae yn ymwneud ag ymateb yn gynnar a bod gam ar y blaen i hyn. Mae angen newid agwedd o ran deall, parchu a derbyn. Mae arnom ni angen mwy a mwy o bobl i ddathlu amrywiaeth yn hytrach na’i ofni, gan gydnabod bod Cymru wedi ei chyfoethogi erioed gan bobl o wahanol gefndiroedd, diwylliannau a chrefyddau.

Felly, byddwn ni’n parhau i gydweithio'n agos â nifer fawr o bartneriaid i gryfhau ein neges gyffredin. Llywydd, gyda’n gilydd, byddwn ni’n cyflwyno negeseuon cyson a chadarnhaol mewn cymunedau ledled Cymru i herio rhagfarn a gwahaniaethu a gwrthwynebu casineb. Mae gennym ni nifer o fentrau i atal pobl ifanc rhag cael eu hudo i weithgarwch adain dde. Nid oes unrhyw gymdeithas yn ddiogel rhag bygythiad eithafiaeth neu derfysgaeth, ond rydym ni’n gweithio i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn lle diogel i fyw a gweithio ynddo. Ceir strwythurau sefydledig ledled Cymru i fynd i'r afael â phob math o eithafiaeth. Daw'r strwythurau hyn at ei gilydd o dan CONTEST a bwrdd eithafiaeth Cymru. Mae ein dull o fynd i'r afael â therfysgaeth eithafol yn cynnwys, er enghraifft, modiwl eithafiaeth heriol yn rhan o'r her dinasyddiaeth fyd-eang ym magloriaeth Cymru, ac mae addysg yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â chasineb. Mae angen i ysgolion fod yn glir ynghylch eu trefniadau i herio geiriau ac ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys hiliaeth, a chefnogi plant sy’n ddioddefwyr. Rydym ni’n diweddaru ein canllaw gwrth-fwlio, 'Parchu eraill', a gyhoeddwyd yn 2011, ac rydym ni eisoes wedi trafod â rhanddeiliaid ac fe fyddwn ni’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yr hydref hwn.

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan a swyddogaeth flaenllaw ym mywydau'r rhan fwyaf ohonom ni, ac mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc. Mae’r ffaith bod cyfryngau cymdeithasol ar gael a’r defnydd a wneir ohonynt yn dod â phroblemau newydd drwy seiberfwlio a seibergasineb, ac rydym ni’n parhau i weithio gyda gwasanaethau'r heddlu ledled Cymru a'r ganolfan ar gyfer cymorth ac adrodd am droseddau er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r angen i roi gwybod am seiberfwlio a cham-drin ac i fonitro hynny.

Llywydd, rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gael cymryd rhan yn y ddadl hon, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau llawer o’r Aelodau yn ystod dadl y prynhawn yma.