Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 17 Hydref 2017.
Diolch, Llywydd. Yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb 2017, gadewch inni gydnabod y caiff trosedd casineb ei diffinio fel trosedd y tybir mai’r cymhelliant yw casineb neu ragfarn tuag at rywun yn seiliedig ar briodwedd bersonol. Mae'r ddadl hon gan Lywodraeth Cymru yn galw arnom ni i nodi'r cynnydd a wnaed o ran fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â throseddau casineb a luniwyd yn 2014. Dywedodd Prosiect Ymchwil Trosedd Casineb Cymru Gyfan, y mae’r fframwaith yn seiliedig arno, bod angen gwneud mwy i gynyddu hyder dioddefwyr a thystion i gwyno’n swyddogol am ddigwyddiadau casineb ac i hyrwyddo'r farn mai’r peth iawn i'w wneud yw rhoi gwybod am gasineb.
Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau o ran sicrhau bod dulliau adrodd trydydd parti hygyrch yn bodoli ar gyfer dioddefwyr nad ydyn nhw eisiau hysbysu’r heddlu yn uniongyrchol. Cofnododd yr Heddlu 2,528 o droseddau casineb yn 2014-15, sef cynnydd blynyddol o 18 y cant, gyda mwy nag 80 y cant yn seiliedig ar gymhelliant hiliol, er bod yr arolwg troseddau blynyddol ar gyfer Cymru a Lloegr yn awgrymu bod troseddau casineb wedi gostwng 28 y cant dros y saith mlynedd blaenorol. At ei gilydd, bu cynnydd pellach o 19 y cant yn y troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn 2015-16, gyda 79 y cant yn droseddau casineb hiliol. Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2016, cynyddodd troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu gan 52 y cant yn Nyfed Powys i 35 o ddigwyddiadau, 22 y cant yng ngogledd Cymru i 56 o ddigwyddiadau, 22 y cant yng Ngwent i 77 o ddigwyddiadau a 10 y cant yn ne Cymru i 276 o ddigwyddiadau. Mae ffigurau troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr ac a gyhoeddwyd heddiw yn dangos cynnydd pellach o 29 y cant yn 2016-17, ac mae ystadegwyr y Swyddfa Gartref yn dweud y credir bod hyn yn adlewyrchu cynnydd gwirioneddol mewn troseddau casineb a gwelliannau parhaus o ran hysbysu’r heddlu am droseddau. Y mis diwethaf, dangosodd ymchwil newydd fod nifer y bobl lesbiaid, hoyw a deurywiol yng Nghymru sy'n dioddef troseddau casineb wedi cynyddu o 11 y cant yn 2013 i 20 y cant eleni.
Os oes unrhyw ddigwyddiad neu drosedd y mae dioddefwr neu unrhyw berson arall yn credu mai’r cymhelliant oedd nam neu nam tybiedig person, yna fe ddylid cofnodi hyn fel trosedd casineb ar sail anabledd. Mae troseddau casineb anabledd a adroddir ar draws y DU wedi codi 101 y cant i 3,079 dros ddwy flynedd, gyda throseddau yn erbyn plant anabl wedi codi 150 y cant i 450. Mae'r Swyddfa Gartref wedi mynegi pryder bod nifer sylweddol o ddioddefwyr nad ydynt yn adrodd am gasineb anabledd, er y bu cynnydd cyson yn nifer y troseddau casineb yr adroddwyd amdanynt yn gyffredinol, gyda mwy o ddioddefwyr yn magu hyder i fynegi hynny a'r heddlu yn gwella'r ffordd y maen nhw’n nodi a chofnodi troseddau casineb.
Felly, rwyf yn cynnig gwelliant 1, gan nodi bod yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr wedi dweud bod angen gwneud mwy i annog dioddefwyr i gwyno.
Rwy’n cynnig gwelliant 2, gan groesawu ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y cod ymarfer newydd ynglŷn â’r cyfryngau cymdeithasol y mae Deddf Economi Ddigidol y DU 2017 yn darparu ar ei gyfer. Bydd hwn yn sicrhau ffordd gydgysylltiedig o fynd ati i ddileu neu fynd i'r afael â chynnwys ar y we sy’n bwlio, yn bygwth neu’n bychanu, gan gynnwys trolio a cham-drin sy'n aml yn cael ei dargedu'n anghymesur at ferched.
Er bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi rhybuddio bod problem gynyddol o ran pobl hŷn yn cael eu targedu'n benodol gan droseddwyr oherwydd eu hoedran, mae bwlch yn y gyfraith o hyd nad yw'n cydnabod fod hyn yn drosedd casineb. Mae ‘Action on Elder Abuse’ yn tynnu sylw at ymchwil sy'n dangos nad yw dros 99 y cant o gam-drinwyr sy'n targedu pobl hŷn yn cael eu cosbi, ac mae eu harolwg o fis Chwefror 2017 yn dangos bod bron i 95 y cant yn cytuno y dylai cam-drin pobl hŷn fod yn drosedd waethygedig fel troseddau casineb yn seiliedig ar hil, crefydd neu anabledd. Felly, rwyf yn cynnig gwelliant 3, sy’n cefnogi galwadau i gydnabod troseddau a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn oherwydd eu hoedran fel troseddau casineb.
Mae adroddiad cynnydd Llywodraeth Cymru 2016-17 yn cyfeirio at y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, ond nid yw'n mynd i'r afael â throseddau casineb yn erbyn oedolion awtistig, ac nid yw'r rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth ar gyfer ysgolion cynradd o reidrwydd yn ymwneud â mynd i'r afael â throseddau casineb. Oes, mae a wnelo fo â chodi ymwybyddiaeth, a da o beth yw hynny, ond nid yw’n cynnwys troseddau casineb. Felly, rwyf yn cynnig gwelliant 4, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ychwanegu troseddau casineb i'r strategaeth awtistiaeth ddiwygiedig. Byddwn yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru, er ei bod hi’n hanfodol darparu mwy o swyddogion cymorth i ddioddefwyr ar y cyd â Chymorth i Ddioddefwyr a gwasanaethau trydydd sector lleol.
Yn gyffredinol, ac i gloi, fel y dywed y sawl ar Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu sy’n arwain ar droseddau casineb:
Fe wyddom ni fod gan ymosodiadau terfysgol a digwyddiadau cenedlaethol a byd-eang eraill y potensial i sbarduno cynnydd tymor byr mewn troseddau casineb, ond
Wrth i derfysgwyr geisio ein rhannu ni, dywedodd ef, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn parhau i sefyll yn unedig yn wyneb gelyniaeth a chasineb.
Diolch.