Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 18 Hydref 2017.
Nid amrywiadau Heinz yn hollol, ond bron â bod. [Chwerthin.] Un arall a byddech wedi’i gwneud hi. Awgrymodd llawer o bobl fod hyn yn edrych fel clirio’r desgiau cyn Brexit. A gaf fi awgrymu y byddai’n siŵr o fod yn well cyflawni mewn perthynas ag ymgynghoriadau blaenorol cyn agor rhai newydd? Er enghraifft, yr hydref diwethaf, fe ymgynghoroch chi ar barthau perygl nitradau, a ddeng mis yn ddiweddarach, nid ydych wedi gwneud penderfyniad o hyd. Sut y gallwn fod o ddifrif ynglŷn ag ymgynghoriad pan fo’n cymryd blwyddyn iddo ddod i unrhyw gasgliad?