Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 18 Hydref 2017.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynychu cynhadledd NFU Cymru mewn pythefnos, ac rwy’n siŵr y bydd wedi gweld y datganiad i’r wasg ymlaen llaw gan John Mercer, cyfarwyddwr NFU Cymru, lle y mae’n dweud hyn:
Cred yr Undeb yn gryf y gallwn sicrhau bod Brexit yn llwyddiant os canolbwyntiwn gyda’n gilydd ar gynorthwyo ein diwydiant i oresgyn yr her o fwydo poblogaeth fyd-eang sy’n cynyddu â bwyd diogel, safonol a fforddiadwy.
Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ei bod yn hollbwysig fod gan ffermwyr Cymru syniad cadarn o beth fydd y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer amaethyddiaeth wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac felly, mae’n hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei phenderfyniadau fframwaith beth bynnag, cyn gynted â phosibl, a’i bod yn eu cyhoeddi. Mae hwn yn gyfle gwych i ffermwyr Cymru, fel y dywed John Mercer. A all Ysgrifennydd Cabinet roi syniad cadarn o’r amser y bydd yn ei gymryd iddi ddatblygu o leiaf polisi fframwaith amaethyddol y gall ei gyhoeddi?