Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:49, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, yn amlwg, mae pob un ohonom yn awyddus i gael bargen os oes un ar gael, ond mae dwy ochr i hyn, ac os nad yw’r UE yn barod i daro bargen, ac os nad ydynt yn barod i barhau i siarad, hyd nes ein bod yn talu’r pridwerth, dyna sut beth fydd ‘dim bargen’. Nid hynny oedd diben fy nghwestiwn heddiw. Y bwriad oedd edrych ar ddyfodol ffermio a physgota yng Nghymru.

Yn dilyn cwestiwn Michelle Brown yn gynharach, yr hyn yr hoffai UKIP ei weld er mwyn adfer bywyd i’n cymunedau pysgota a chymunedau ein harfordir yw parth economaidd cyfyngedig o amgylch y Deyrnas Unedig, ac yn amlwg, yn nyfroedd Cymru, o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, er mwyn atal pysgotwyr Ewropeaidd rhag cael mynediad cyfartal i’r dyfroedd hyn, cael parthau lle na chaniateir pysgota i gynorthwyo’r broses o silio ac ailgyflenwi stociau pysgod—efallai y gallai llongau pysgota tramor gael mynediad i’n dyfroedd, ond gyda thrwyddedau—a sicrhau bod yr holl bysgod sy’n cael eu dal yn nyfroedd y DU, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu dal gan longau tramor sy’n gweithredu o dan drwydded, yn cael eu glanio a’u gwerthu yn y DU i helpu i ariannu a denu buddsoddiad mewn diwydiant pysgota sy’n datblygu o’r newydd.

Felly, gobeithiaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld y gallwn wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at y ddadl hon mewn ffordd amhleidiol. Credaf fod lle i wneud hynny gyda phob plaid yn y Cynulliad hwn.