Mynediad i Ddyfrffyrdd

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:55, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Yn ychwanegol at ystyried adroddiadau a strategaethau ar gymryd rhan mewn twristiaeth gweithgareddau a hamdden, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cryn dipyn o ymgysylltu â’r cyhoedd. Daeth oddeutu 15,000 o ymatebion i law yn sgil yr ymgynghoriad diweddar ar reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae pob un yn dangos gwerth a photensial gweithgareddau hamdden dŵr fel pysgota a rhwyfo a pham fod angen datrys anghytundebau cyfredol.