Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 18 Hydref 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi cael llawer o sylwadau gan etholwyr ynglŷn â’r mater hwn yn benodol, ac fel y dywedoch, rwy’n credu bod angen i’r ddau grŵp ddod at ei gilydd i’w ddatrys. Nawr, rydych newydd sôn am dwristiaeth pysgota, ond mae llawer o’n dinasyddion yn mwynhau pysgota fel gweithgaredd hamdden mewn gwirionedd, ac felly’n mwynhau’r gweithgareddau y maent yn eu gwneud, nid fel gweithgareddau twristaidd, ond fel rhan o’u hamser hamdden. A ydych yn cytuno â mi mai’r ffordd orau o ddatrys hyn, mewn gwirionedd, yw sicrhau bod y sefydliadau’n dod at ei gilydd ac yn dod i gytundeb o’u gwirfodd, yn hytrach na chael rhywbeth wedi’i orfodi arnynt?