Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 18 Hydref 2017.
Soniais yn fy ateb i David Rees fod hwn yn fater hynod gynhennus, ac mae’n fater cynhennus sydd wedi bodoli ers peth amser. Fodd bynnag, credaf mai dyma ein cyfle bellach i wneud hyn yn iawn. Buaswn yn sicr yn awyddus i ddod â’r holl grwpiau at ei gilydd. Nid wyf am ochri ag unrhyw grŵp, ond os gallwn hwyluso’r broses o ddod â’r grwpiau at ei gilydd, buaswn yn fwy na pharod i wneud hynny. Mewn perthynas â’ch cwestiynau polisi penodol ynghylch dulliau adnabod a ffioedd, unwaith eto, mae hynny’n rhywbeth y byddai’n rhaid i ni ei ystyried wedi’r ymgynghoriad.