Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 18 Hydref 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r prif faterion sy’n wynebu’r diwydiant amaethyddol yng ngorllewin Cymru yw dynodiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer parthau perygl nitradau. Nawr, yn gynharach yn y sesiwn hon, mewn ymateb i Simon Thomas, fe ymrwymoch i wneud penderfyniad ar barthau perygl nitradau erbyn diwedd y flwyddyn ac y byddwch, yn nes ymlaen heddiw, yn trafod y mater gyda’ch swyddogion. O ystyried yr effaith aruthrol y gallai cyflwyno parthau perygl nitradau ei chael ar ffermwyr yn fy etholaeth, a wnewch chi ymrwymo i ystyried edrych ar fesurau gwirfoddol cyn gosod parthau perygl nitradau, ac a allwch gadarnhau a ydych yn barod i drafod mesurau gwirfoddol gyda’ch swyddogion yn nes ymlaen y prynhawn yma ?