Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 18 Hydref 2017.
Ie, rwy’n credu eich bod yn nodi pwynt perthnasol iawn, ac yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, cyn y cytundeb cyllidebol gyda Phlaid Cymru, rwyf wedi bod yn edrych ar sut y gallwn annog mwy o bobl, a phobl ifanc a newydd-ddyfodiaid yn arbennig, oherwydd rwy’n credu, wrth edrych yn ôl ar y cynllun cymorth i newydd-ddyfodiaid, tua 10 y cant yn unig oedd yn newydd-ddyfodiaid. Rwy’n credu bod y gweddill yn rhan o’r olyniaeth honno i mewn i fusnesau sy’n bodoli eisoes. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar sut y gallwn ddenu newydd-ddyfodiaid. Crybwyllais fy mod yn meddwl am golegau addysg bellach a gweithio gyda myfyrwyr a cholegau addysg uwch. Rwy’n credu bod mentora’n bwysig iawn, felly os ydych yn meddwl am gynllun arall sydd gennym, y cynllun Mentro, lle’r ydym yn edrych ar bobl ifanc unwaith eto gyda phobl sydd efallai’n dymuno ymddeol, credaf fod hwnnw wedi bod yn llwyddiannus iawn ar lefel wahanol, ond mae’n ymwneud â chasglu’r holl ddarnau gorau a dod â’r cyfan at ei gilydd i ffurfio cynllun newydd.