Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 18 Hydref 2017.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, fe symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio. Iawn. Felly, pleidleisiwn yn gyntaf ar gynigion i ethol Aelodau ar bwyllgorau. A gaf fi roi gwybod ichi fod y tair pleidlais gyntaf a gawn yn galw am fwyafrif o ddwy ran o dair i gael eu derbyn? Felly, galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig cyntaf i ethol Neil McEvoy i’r Pwyllgor Deisebau. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 39, roedd 10 yn ymatal. Felly, derbyniwyd y cynnig.