Cymunedau yn Gyntaf

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:16, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Cafodd tîm pontio Cymunedau yn Gyntaf ei sefydlu i gynorthwyo cyrff cyflawni arweiniol Cymunedau yn Gyntaf gyda chynllunio a chynghori staff. Cafwyd trafodaethau parhaus gyda staff awdurdod lleol a staff ac undebau’r trydydd sector. Mae gan gyrff cyflawni arweiniol gynlluniau pontio ar waith i lywio’r gwaith o gyflawni’r rhaglen yn ystod 2017-18.