Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae pob landlord cymdeithasol ar y trywydd cywir i gyrraedd y safon erbyn 2020. Mae’r ystadegau blynyddol diweddaraf yn dangos, ar 31 Mawrth 2017, fod 192,302—86 y cant—o dai cymdeithasol bellach yn cyrraedd y safon, o gymharu â 79 y cant ar gyfer y flwyddyn gynt. Mae dros 15,000 o aelwydydd bellach yn byw mewn tai o ansawdd gwell nag yn y flwyddyn flaenorol.