Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 18 Hydref 2017.
Rwy’n cefnogi’r amcan o uwchraddio tai cymdeithasol, yn sicr, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond hoffwn ofyn pa ddadansoddiad a wnaethoch o’r gost i landlordiaid cymdeithasol o uwchraddio’r tai a’r tebygolrwydd y caiff y gost honno ei throsglwyddo i denantiaid yn y dyfodol drwy godiadau rhent?