Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch. Wel, o ystyried yr ymateb hwnnw, ac wrth gwrs, eich cyfrifoldebau ar y lefel ddatganoledig dros bolisi troseddu a chyfiawnder, gan gynnwys cyfiawnder ieuenctid, sut yr ydych yn ymgysylltu neu sut y byddwch yn ymgysylltu ag Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Gyfiawnder yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed ar ddechrau’r mis hwn ynglŷn â buddsoddiad o £64 miliwn mewn dalfeydd ieuenctid i wella staffio ac addysg ar gyfer pobl ifanc a thasglu cenedlaethol—h.y. tasglu cenedlaethol y DU, mae’n debyg—i helpu cyn-droseddwyr i ddod o hyd i waith, a fydd yn targedu cyflogwyr er mwyn gwerthu manteision cyflogi cyn-droseddwyr, yn ogystal â chynghori llywodraethwyr ar hyfforddiant i’w roi i gyn-garcharorion i gynyddu eu cyfleoedd i ddod o hyd i waith?