Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 18 Hydref 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, er mwyn adsefydlu’r rhai sy’n gadael y carchar yn effeithiol mae’n bwysig iawn fod ganddynt do uwch eu pennau. Golygai Deddf Tai (Cymru) 2014 nad oedd pobl a oedd yn gadael y carchar bellach yn cael eu categoreiddio’n awtomatig fel rhai ag angen blaenoriaethol am dai. Cafwyd gwerthusiad ôl-weithredol o’r ddeddfwriaeth honno yn 2017, a oedd yn datgan bod pobl sy’n gadael y carchar ymhlith y grwpiau nad yw eu hanghenion tai yn cael eu bodloni. O ystyried y ffeithiau hynny, a wnewch chi roi ystyriaeth bellach yn awr i amddiffyn a chategoreiddio pobl sy’n gadael y carchar mewn perthynas â digartrefedd ac anghenion tai?