Adsefydlu Troseddwyr

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:40, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae adsefydlu a lleihau aildroseddu yn bethau y mae pawb ohonom am geisio eu cyflawni. Rwyf am roi un awgrym i chi yn awr: mae’n bosibl y bydd atal carchardai mawr yn helpu rywfaint yn hynny o beth mewn gwirionedd, ac felly mae’n bosibl y bydd atal yr un ym Maglan yn eich helpu rywfaint. Ond yn yr ystyr o sut y gallwn helpu i’w hadsefydlu, mae gwasanaethau cymorth yn hollbwysig a bydd y gwasanaethau cymorth yn defnyddio llawer iawn o adnoddau ein gwasanaethau. Pa drafodaethau yr ydych yn eu cael gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau eu bod yn cyllido’r gwasanaethau hynny fel y gallwn sicrhau, pan fyddwn yn adsefydlu a phan fyddwn yn lleihau aildroseddu, y byddwn yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn ein helpu ni mewn gwirionedd ac nad ydym yn ei wneud ar eu traul?