Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch. Ein blaenoriaeth yw sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau effeithiol sy’n diwallu anghenion mewn meysydd fel iechyd, tai a chyflogaeth. Enghreifftiau o’r rhain yw’r llwybr tai a’r gwaith y mae GIG Cymru y Cyn-filwyr yn ei wneud ar gyflwyno treialon ymchwil i leddfu problemau iechyd meddwl megis anhwylder straen wedi trawma.