Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 18 Hydref 2017.
Rwy’n rhannu pryder yr Aelod ynglŷn â hyn, ac rydym yn gwneud gwaith gyda David Melding, sy’n cadeirio grŵp cynghori i edrych ar ba mor eithriadol o agored i niwed yw pobl ifanc sydd wedi cael eu rhoi mewn gofal maeth neu wedi cael eu mabwysiadu, ac rydym yn chwilio am gyngor ar beth arall y gallwn ei wneud i helpu gyda hyn. Nid yw hyn bob amser yn ymwneud ag arian, gyda llaw. Mae hyn yn aml yn ymwneud â systemau cymorth—cyrff trydydd sector weithiau, neu gyrff sector cyhoeddus—yn gwneud yr hyn y maent yn ei ddweud ar y tun mewn gwirionedd, gan wneud yn siŵr ein bod yn cydnabod bod y bobl ifanc hyn yn hynod agored i niwed a gwneud gwaith dilynol ar y broses honno hefyd. Nid yw’n ymwneud â lleoliad yn unig; mae’n ymwneud â lleoliad a chymorth, ac mae’n rhywbeth rwy’n ymwybodol iawn ohono.