Tlodi Ymysg Plant

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:52, 18 Hydref 2017

Mae’r defnydd o fanciau bwyd wedi codi dros 500 y cant, gyda thraean o’r defnyddwyr yn blant. Mae 31 y cant o blant yn byw mewn tlodi, ac mae yna 10 gwaith yn fwy o bobl yn derbyn sancsiynau ar hyn o bryd, â thystiolaeth bod y cynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd yn uniongyrchol gysylltiedig efo sancsiynau a materion yn ymwneud â chredyd cynhwysol. A ydych chi’n cytuno bod angen trosglwyddo rheolaeth weinyddol dros fudd-daliadau o Loegr i Gymru? Rheolaeth weinyddol—nid y gallu i amrywio’r lefel na’r mathau o fudd-daliadau, ond y gallu i ddod â’r diwylliant o sancsiynau creulon i ben a’r gallu i greu cyfundrefn fwy trugarog a dynol yma yng Nghymru.