Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 18 Hydref 2017.
Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod. Rwy’n wirioneddol—. Pan fyddaf yn cael cwestiynau, mae’r Aelod yn codi’r mater hwn yn rheolaidd, ac mae hynny’n galonogol o ran ei ymrwymiad hefyd. Y ffaith amdani yw ein bod yn gwneud llawer o bethau sy’n lliniaru’r problemau a’r effeithiau sy’n digwydd o ganlyniad i benderfyniadau San Steffan, ond fel y dywedais yn gynharach, mae gwneud yn siŵr fod gennym y cyllid i gefnogi gweinyddiaeth y broses hon yn bwysig. Mae’n rhaid inni wneud yn siŵr fod cymryd cyfrifoldeb yn gredadwy, drwy ein bod yn gallu gweithredu’n gadarnhaol i gefnogi’r unigolion y mae hyn yn effeithio arnynt. Ar hyn o bryd, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, ac rydym yn dweud yn glir iawn nad yw’r broses credyd cynhwysol yn gweithio i bobl a bod y ffordd y mae’n cael ei weithredu’n beryglus.