Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 18 Hydref 2017.
Ddoe, cawsom gyfarfod o amgylch y bwrdd, ac roedd yr ystafell yn llawn o arbenigwyr ym maes rhoi diwedd ar fasnachu pobl neu gaethwasiaeth yng Nghymru. Un o’r materion a gododd dro ar ôl tro oedd y cyfnod o 45 diwrnod sydd gan ddioddefwyr i brofi eu hachos a chwblhau’r mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol a’r awydd i wneud hwnnw’n gyfnod llawer hwy, yn 60 diwrnod fan lleiaf. Gwn mai gan Lywodraeth y DU y mae’r pwerau, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae cais clir gan yr holl arbenigwyr yng Nghymru i chi ofyn i Lywodraeth y DU ystyried ymestyn hwnnw, oherwydd ni chynigir unrhyw help na chymorth o gwbl i unigolion nes eu bod wedi cwblhau’r mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol. Mater i’r cyrff anllywodraethol yw cynnig unrhyw loches, unrhyw help, unrhyw gymorth o gwbl ar ôl y 45 diwrnod.