Llwybr Tai Cenedlaethol ar Gyfer Cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 3:02, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n credu mai’r hyn a welwn yw ein bod yn dysgu o brofiad. Dywedais wrth Vikki Howells yn gynnar ynglŷn ag ymdrin â chyn-aelodau’r lluoedd arfog—mae’n broses amrywiol am fod anghenion pawb yn wahanol. Mae’n rhaid inni ddeall hynny’n well. Yr hyn yr ydym yn falch iawn ohono gyda’r llwybr tai yw bod awdurdodau lleol a chymdeithasau tai’n wynebu’r her yn hyn o beth ac yn gweithio’n dda iawn i helpu cyn-aelodau’r lluoedd arfog a chyn-filwyr gyda’u hanghenion, yn ogystal ag anghenion teuluoedd aelodau’r lluoedd arfog hefyd. Felly, rwy’n gweld canlyniadau gwych a chadarnhaol ar draws Cymru. Rwyf wedi ymweld â rhai o’r sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i gyn-aelodau o’r lluoedd arfog hefyd.