Yswiriant Meddygol Meddygon Teulu

Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:04, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Rydym yn parhau i gael sgwrs adeiladol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yng Nghymru ynglŷn â chost uchel yswiriant indemniad. Rydym wedi cytuno â hwy i adolygu sut y mae’r farchnad yn gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd er mwyn helpu i lywio ein hopsiynau ar gyfer camu ymlaen. Mae’r Llywodraeth hon yn parhau’n ymrwymedig i ddod o hyd i ateb sy’n gweithio i feddygon teulu yng Nghymru.