Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch yn fawr am y cwestiynau hynny, a hefyd am y cyfle i ddod â’r mater hwn i lawr y Cynulliad heddiw. Fel y dywedwch, rhaid i ddiogelu plant sy’n agored i niwed fod yn brif flaenoriaeth, ac roedd yn sicr yn flaenoriaeth i mi pan ddeuthum yn ymwybodol o’r sefyllfa gyntaf, a hynny wedi i nodyn cyfrinachol gael ei gyflwyno, mewn gwirionedd, gan brif arolygydd AGGCC, ac mae’n sicr yn adlewyrchu difrifoldeb yr adroddiad arolygu. Mae’n anarferol iawn, yn sicr yn ddigynsail yn fy amser yn y swydd hon, i gamau gweithredu o’r fath gael eu rhoi ar waith. Felly roedd yn sicr yn flaenoriaeth i fodloni fy hun, hyd yn oed cyn i’r adroddiad gael ei dderbyn yn ffurfiol gan Bowys, fod plant ym Mhowys yn ddiogel, a mynnais fod camau gweithredu’n cael eu rhoi ar waith ar unwaith. Er enghraifft, mae Powys wedi ymateb drwy archwilio achosion a chofnodion a rhaglen sicrwydd yn seiliedig ar risg mewn perthynas â diogelu, ac maent wedi dod â chwmni allanol i mewn i wneud y gwaith hwnnw.
Maent hefyd wedi cynyddu eu hadnoddau staff a rhoi rhaglen arweinyddiaeth ac ymddygiadau ar waith, ac mae holl aelodau’r cabinet yn awr ar y pwyllgor rhianta corfforaethol. Felly, maent wedi rhoi rhai camau cynnar ar waith, ond ar bob cam rwyf wedi gofyn am sicrwydd gan y prif weithredwr ac arweinydd y cyngor fod plant ym Mhowys yn ddiogel yn eu barn hwy, a rhoesant y sicrwydd hwnnw i mi’n fwyaf diweddar pan gyfarfûm â hwy ddydd Gwener diwethaf i roi rhybudd ymlaen llaw iddynt am y camau y byddem yn eu cymryd mewn perthynas â’r hysbysiad rhybuddio.
Fe sonioch fod Powys wedi cyfeirio mater posibl yn ymwneud â cham-drin rheoli perfformiad i’r heddlu. Mae’n rhaid i mi ddweud wrthych nad wyf fi nac AGGCC wedi cael unrhyw rybudd blaenorol ynglŷn â’r mater hwn gan Gyngor Sir Powys, felly roeddwn yn siomedig ac yn synnu clywed am hynny yn y cyfryngau. Mater i Gyngor Sir Powys ei ystyried yw hwn, ac wrth gwrs, mae’n fater i’r heddlu yn awr, felly ni fuasai’n briodol i mi wneud unrhyw sylw pellach ar hynny ar hyn o bryd, ond fe wnaf ddweud, wrth gwrs, ein bod yn ystyried y goblygiadau o ran yr ystadegau a gyhoeddir gennym a’r rhai sydd i’w cyhoeddi gennym yn dilyn y cyhoeddiad ddoe fod yr heddlu’n ymchwilio i’r materion posibl yn ymwneud â cham-drin data ym Mhowys.
O ran gwasanaethau yn ehangach, rwy’n deall bod gan Estyn rywfaint o bryderon ynglŷn ag addysg, a bod Powys yn ddarostyngedig i’r broses gynhadledd achos sydd ganddynt. Yn wyneb y pryderon sydd gennyf am wasanaethau plant ym Mhowys, rwyf wedi gofyn i AGGCC gynnal eu harolwg o wasanaethau cymdeithasol i oedolion yn gynt. Roedd i fod i’w gynnal yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf, ond rwyf wedi gofyn iddynt ei gynnal cyn hynny, a bydd Powys yn cael chwe wythnos o rybudd ynglŷn â pha bryd y bydd hynny’n digwydd.
Rwy’n deall hefyd fod Cyngor Sir Powys wedi awgrymu y bydd gwelliannau i wasanaethau plant yn costio tua £4 miliwn, ac rwy’n deall y bydd arian a dynnwyd yn flaenorol o’r gyllideb gwasanaethau plant yn cael ei adfer o gronfeydd wrth gefn y cyngor i dalu’r arian hwnnw.