Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch, Llywydd. A gaf fi, o’r cychwyn, ei gwneud hi’n gwbl glir nad oes gennym ni ar yr ochr hon i’r Siambr unrhyw broblem gyda Phlaid Cymru yn llenwi’r seddi gwag ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a’r Pwyllgor Deisebau? Nid oes gennym unrhyw broblem ychwaith gyda Neil McEvoy yn cael lle ar y Pwyllgor Deisebau fel Aelod ychwanegol. Yn wir, rydym yn credu y dylai gael y lle hwnnw. Fodd bynnag, credwn na ddylai’r newidiadau hyn ddigwydd heb newid dyraniad y Cadeiryddion pwyllgorau hefyd.
O ystyried bod cydbwysedd gwleidyddol y Cynulliad wedi newid unwaith eto, mae hi hyd yn oed yn gliriach mai grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yw’r grŵp gwrthbleidiol mwyaf. Felly, rwyf am gofnodi unwaith eto y prynhawn yma fy siom llwyr fod dyraniad presennol y Cadeiryddion pwyllgorau yn parhau i fethu adlewyrchu maint cymharol pob un o grwpiau’r pleidiau’n gywir. Gan fod grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i fod yr ail grŵp mwyaf yn y lle hwn, nid yw ond yn iawn fod hynny’n cael ei adlewyrchu yn nyraniad y Cadeiryddion pwyllgorau. Yn wir, mae’r Llywydd hefyd wedi dod i’r casgliad fod yn rhaid i reolwyr busnes roi sylw i’r angen i sicrhau bod dyraniad Cadeiryddion pwyllgorau’n wleidyddol gytbwys. Fel y mae adroddiad y Pwyllgor Busnes yn ei nodi, ac rwy’n dyfynnu:
‘Er bod y Llywydd yn fodlon bod Rheolwyr Busnes yn ymwybodol o’r gofyniad hwnnw yn ystod eu trafodaethau, nid yw’n cytuno â barn y mwyafrif ar y Pwyllgor fod y dyraniad presennol yn dderbyniol o safbwynt cyflawni’r gofyniad hwnnw.’
Felly, fy safbwynt i yw y dylai’r Cynulliad anrhydeddu a pharchu penderfyniad y Llywydd gan y byddai unrhyw beth arall, yn fy marn i, yn amharchu’r Gadair. Mae’r Llywydd yn ei gwneud yn gwbl glir fod sefyllfa lle y mae gan grŵp Plaid Cymru fwy o Gadeiryddion na’r grwp Ceidwadol yn amlwg yn afreolaidd, ac felly dylai’r Pwyllgor Busnes gadw at hynny. Wrth gwrs, mae nifer presennol yr Aelodau bellach yn 12 i’r Ceidwadwyr Cymreig a 10 i Blaid Cymru, ac eto mae gan Blaid Cymru fwy o Gadeiryddion pwyllgorau a mwy o seddi ar bwyllgorau na’r Ceidwadwyr Cymreig. Felly, ni fydd yn syndod i’r Aelodau glywed nad yw fy marn wedi newid ers i ni drafod y mater hwn yn y Siambr hon ddiwethaf. Credaf fod hyn yn annerbyniol, yn hynod o annemocrataidd ac yn destun pryder a bod yn onest fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau i weithredu yn y modd hwn. O ganlyniad, byddwn ni, ar yr ochr hon i’r Siambr, yn gwrthwynebu’r cynigion hyn fel mater o egwyddor, o ystyried bod y newidiadau penodol hyn wedi digwydd heb newid y Cadeiryddion pwyllgorau, o ystyried cydbwysedd gwleidyddol presennol y Cynulliad.
Rwy’n siomedig nad oedd rheolwyr busnes o bleidiau eraill yn argyhoeddedig fod angen gwneud newid ar y sail y dylai Cadeiryddion pwyllgorau gael sicrwydd daliadaeth. Nid rôl y Pwyllgor Busnes yw cadw Cadeiryddion yn eu swyddi doed a ddêl, ond yn hytrach, adlewyrchu tirlun gwleidyddol y Cynulliad sy’n newid yn gyson. Mae cadeirio pwyllgor yn fraint, nid yn rhywbeth i’w gymryd yn ganiataol, ac os bydd y dirwedd wleidyddol yn newid, yn sicr mae’n rhaid i’r Aelodau i gyd barchu hynny a bod yn ddigon aeddfed i adlewyrchu unrhyw gydbwysedd gwleidyddol newydd.
Yn yr adroddiad, mae rheolwr busnes y Blaid Lafur wedi gofyn cwestiwn ynghylch parhauster y cydbwysedd presennol, o gofio bod Neil McEvoy wedi ei atal ar hyn o bryd yn hytrach na’i ddiarddel o grŵp Plaid Cymru, ac wrth gwrs, mater i Blaid Cymru ei benderfynu yw hynny yn y pen draw. Ei barn hi yw bod yna bosibilrwydd y gall fod angen i’r Pwyllgor Busnes ailedrych ar ddyraniad y Cadeiryddion eto. Ydy, mae hynny’n wir, ond pam y gwnawn newidiadau eraill os nad yw’r sefyllfa’n barhaol? Yn sicr, o ddilyn y rhesymeg honno, ni ddylem fod yn gwneud unrhyw newidiadau o gwbl? A beth bynnag, mae’r Llywydd wedi penderfynu nad yw Neil McEvoy yn aelod o grŵp Plaid Cymru ac y dylai’r sefydliad hwn barchu’r penderfyniad hwnnw.
Nid yw’n iawn fod gan wrthblaid yn y sefydliad hwn sydd â llai o Aelodau na gwrthblaid arall fwy o Gadeiryddion pwyllgorau, a gallai hyn greu goblygiadau difrifol yn y dyfodol i’r sefydliad hwn. Ym mlwyddyn ugeinfed pen-blwydd datganoli, ai dyma’r neges y mae’r Cynulliad yn awyddus i’w hanfon at bobl Cymru mewn gwirionedd? Os caniateir i’r sefyllfa barhau, daeth yn amlwg nad yw’r rhan fwyaf o’r Cynulliad hwn yn cefnogi Cynulliad cytbwys sy’n adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol ei Aelodau mwyach. Felly, Llywydd, rwy’n credu bod hwn yn ddiwrnod trist arall eto i’r Cynulliad Cenedlaethol a’i weithrediadau, ac yn ddiwrnod trist i’n cyfansoddiad.
Gan symud ymlaen, rwy’n mawr obeithio y bydd y Cynulliad hwn yn y pen draw yn cyflwyno canlyniad sy’n adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y sefydliad hwn wrth gydlynu busnes y Cynulliad, fel y gall pobl Cymru fod yn gwbl hyderus fod y Cynulliad yn gweithio mewn modd cwbl agored, tryloyw a democrataidd.