Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 18 Hydref 2017.
Hoffwn longyfarch yr ACau y cyflwynwyd y ddadl hon yn eu henwau heddiw. Ar gyfer fy nghyfraniad, hoffwn gyfeirio fy sylwadau at ail ran y cynnig sy’n ymwneud â cherbydau trydan. Mae nifer y cerbydau trydan a hybrid ar ffyrdd Cymru wedi codi’n ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chynnydd 25 gwaith drosodd yn y pedair blynedd rhwng 2012 a 2016. Mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y dylem ei groesawu. Rydym yn gwybod bod allyriadau o gerbydau modur yn cyfrannu at gynhesu byd-eang ac yn gysylltiedig â degau o filoedd o farwolaethau bob blwyddyn. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau mwy o ddefnydd ar gerbydau trydan, mae angen inni sicrhau bod y seilwaith cywir yn ei le fel y gellir eu defnyddio mewn bywyd bob dydd, ac mae hyn yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone wedi ei grybwyll eisoes.
Sylwais gyda diddordeb mawr ar yr ymrwymiad yn y gyllideb ychydig wythnosau’n ôl i roi £2 filiwn ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Rwy’n credu bod hwn yn gam gwirioneddol synhwyrol i wneud yn siŵr fod Cymru yn gallu datblygu’r rhwydwaith o bwyntiau cyflenwi sydd ei angen arni, ond mae angen inni sicrhau rhwydwaith, nid yn unig o bwyntiau gwefru, ond o bwyntiau gwefru gyflym. Unedau gwefru yw’r rhain sy’n gallu gwefru 80 y cant mewn oddeutu 30 munud, o gymharu â’r unedau sy’n cymryd tair i bedair awr i wefru cerbyd yn llawn. Y pellter y gall cerbyd trydan ei deithio cyn ailwefru yw oddeutu 80 milltir ar gyfartaledd, ac ar gyfer llawer o deithiau, bydd angen i ddefnyddwyr aros ac ailwefru eu cerbyd eto, ac nid yw’n ymarferol inni gael unedau gwefru lle y byddai’n rhaid i bobl aros am dair i bedair awr. Dyma’r math o bethau sy’n datgymell pobl rhag bod yn berchen ar gerbydau trydan, felly mae’n bwysig iawn ein bod yn defnyddio’r buddsoddiad hwn i gael y pwyntiau gwefru cyflym, yn hytrach na’r rhai confensiynol.
Ar wahân i oddeutu dwsin o bwyntiau gwefru cyflym sydd wedi eu cyfyngu i raddau helaeth i goridorau’r M4 neu’r A55, mae hyn o ddifrif yn rhywbeth sy’n galw am ddatblygiad pellach, a buaswn yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â chymuned frwdfrydig ac ymroddgar y defnyddwyr cerbydau trydan yn gynnar yn y broses er mwyn gwneud y penderfyniadau gorau ar wario’r arian hwn yn gywir ac yn effeithlon. Mae’n bwynt sylfaenol, ond mae’n rhaid inni wneud yn siŵr fod y cyfleusterau gwefru hyn wedi eu lleoli yn y mannau cywir a’u bod yn hygyrch 24 awr y dydd hefyd.
Wrth wneud fy ymchwil ar gyfer heddiw, roedd yr adroddiad gan y grŵp arbenigol ar gerbydau carbon isel a gynhyrchwyd ar gyfer y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth blaenorol yn arbennig o ddefnyddiol. Mae’r adroddiad yn cynnig awgrymiadau synhwyrol ar sut y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo rhwydwaith gwefru cyflym ar draws ystâd y sector cyhoeddus a datblygu fflyd well o gerbydau nwyddau. Mae hefyd yn nodi pwysigrwydd hyrwyddo ffynonellau tanwydd amgen i gerbydau trafnidiaeth gyhoeddus. Fel y noda’r adroddiad, mae cryfder sylfaen fodurol Cymru yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i ddatblygu fel canolfan ragoriaeth ar gyfer cerbydau carbon isel, ac mae hyn, yn ei dro, yn cynnig cyfleoedd newydd inni ysgogi twf ac elwa ar ei fanteision economaidd. Cymeradwyaf y cynnig hwn heddiw.