Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn enw Paul Davies sy’n galw ar y Cynulliad i ymestyn y cymhwysedd ar gyfer hawlio teithiau bws am ddim a breintiau cerdyn rheilffordd i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Rwy’n credu ei bod yn addas iawn fod ein dadl y prynhawn yma’n dilyn ymlaen o’r ddadl flaenorol.
Fel y bydd yr Aelodau’n derbyn, ni allwn gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru sy’n ceisio dileu ein cynnig yn ei gyfanrwydd. Rhaid i mi ddweud, fodd bynnag, fy mod yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru i’w gweld yn dilyn yr ôl troed wrth ymgynghori ar gynllun newydd i gefnogi pobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a diwygio’r cynllun fyngherdynteithio—cynllun nad yw wedi cyrraedd ei botensial cychwynnol mewn gwirionedd er bod miliynau wedi ei fuddsoddi ynddo, a chafodd ei ddisgrifio fel un siomedig o ran y niferoedd a fanteisiodd arno.
Nod y cynnig hwn, Dirprwy Lywydd, yw helpu i ryddhau pobl ifanc o’r heriau ariannol sy’n eu hwynebu yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni trwy gyflwyno cynllun a luniwyd i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch a sicrhau mwy o chwarae teg i bobl iau. Oedolion ifanc sy’n tueddu i fod â’r cyflogau isaf, y premiymau yswiriant car uchaf, hwy sy’n dioddef fwyaf o argyfwng tai Cymru, a hwy hefyd sydd wedi dioddef yr ansicrwydd o beidio â gwybod a fydd eu ffioedd dysgu’n codi unwaith eto—ac mae hyn, wrth gwrs, wedi gwaethygu pryderon pobl ifanc ynglŷn â chostau addysg uwch. Felly, gallai’r cynllun cerdyn gwyrdd a gynigiwn gael gwared ar y rhwystr i gael mynediad at addysg a hyfforddiant ar gyfer swyddi i lawer o bobl yng Nghymru.
Yn wir, mae hon yn broblem sy’n wynebu llawer o bobl ifanc yn fy etholaeth i, lle y mae cost defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rhwystr mawr i lawer o oedolion ifanc wrth iddynt geisio cael mynediad at addysg bellach ac uwch. Yn sgil y ffaith bod ysgolion a cholegau mewn rhai rhannau o ganolbarth Cymru yn darparu cyrsiau mwyfwy cyfyngedig, mae’r cyfyngiadau ariannol a’r anhawster mawr i gael mynediad at addysg bellach mewn mannau eraill yn golygu bod pobl ifanc naill ai’n dewis peidio â dilyn eu dewis cyntaf o bwnc, neu’n peidio â chamu ymlaen i addysg bellach o gwbl. Felly, buaswn yn awgrymu bod yn rhaid i ni weithredu. Rwy’n ei chael hi’n anodd gweld sut y gall strategaeth ‘Ffyniant i Bawb’ Llywodraeth Cymru gael ei gwireddu heb roi mesurau digonol ar waith i leihau cost trafnidiaeth gyhoeddus i bobl iau.
Deillia’r cyfiawnhad dros y cynnig hwn o’r rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yng Nghymru heddiw. Bellach, gweithwyr Cymru sy’n cael y cyflogau wythnosol isaf yn y DU. Mae’n arswydus fod pecyn cyflog yn yr Alban yn cynnwys £43 yr wythnos yn fwy na gweithwyr Cymru. O ganlyniad i hyn, mae pobl iau yn wynebu rhagolygon llwm o ran eu gallu i ennill arian. Credaf y bydd darparu gwasanaeth bws am ddim a cherdyn rheilffordd yn chwarae rhan yn galluogi pobl iau i fynd ar drywydd cyflogaeth neu addysg bellach, yn enwedig gan fod pobl ifanc rhwng 18 a 21 oed yn fwy tebygol o ddefnyddio bws nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae ein pobl ifanc yn dibynnu’n drwm ar y rhwydwaith bysiau a rheilffyrdd i fanteisio ar gyfleoedd gwaith ac addysg, felly rydym ni ar y meinciau hyn yn credu y dylent gael eu cefnogi yn hynny.
Hoffwn nodi bod ein cynnig wedi denu adborth cadarnhaol iawn gan y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, a oedd yn hynod falch o ymdrechion y Ceidwadwyr Cymreig i gefnogi’r defnydd o fysiau gan bobl iau. Rydym wedi argymell dwy fenter wedi eu costio’n llawn y credwn y byddent yn lleihau’r baich ariannol sy’n wynebu pobl iau yng Nghymru. Felly, er mwyn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial, rwy’n meddwl bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch i grŵp oedran sy’n ei chael yn anodd, a bydd ein cynllun teithiau bws am ddim hefyd yn creu manteision amgylcheddol sylweddol sy’n mynd y tu hwnt i’r manteision uniongyrchol i bobl ifanc eu hunain, gan annog pobl i newid o foduro preifat i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn, wrth gwrs, yn gyson ag amcanion Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau cerbydau, a bydd hefyd yn adfywio’r diwydiant bysiau.
Fel y dywedais mewn cyfraniad yr wythnos diwethaf, os yw pobl ifanc yn cael eu cyflwyno i drafnidiaeth gyhoeddus yn gynnar, mae’n amlwg eu bod yn dal ati ac yn parhau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiweddarach mewn bywyd. Felly, rwy’n credu bod ein cynigion ar gyfer trafnidiaeth am ddim yn ddigyfyngiad i bobl rhwng 16 a 24 oed yn gam hanfodol i sicrhau bod pobl ifanc yn gwneud y gorau o’u potensial, gan adeiladu uchelgais ac annog dysgu, fel y mae strategaeth Llywodraeth Cymru, ‘Ffyniant i Bawb’, yn ceisio ei gyflawni. Felly, cymeradwyaf ein cynnig y prynhawn yma i’r Cynulliad, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau’r Aelodau i’r ddadl y prynhawn yma.