Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 18 Hydref 2017.
Ers mis Ebrill eleni, mae pobl ifanc wedi gwneud dros 0.5 miliwn o deithiau gan ddefnyddio fyngherdynteithio a heddiw, mae yna dros 17,000 o ddeiliaid tocynnau. Rwy’n derbyn nad yw’r gyfran honno, y nifer sy’n eu defnyddio, mor uchel ag y byddem yn dymuno iddi fod, ac felly, yr her yw annog mwy byth o bobl ifanc i wneud yr un peth, er mwyn gwella ein cynllun teithio ar fysiau am bris gostyngol i bobl iau, a’i gwneud yn haws i genhedlaeth gyfan deithio ar y bws. Yr wythnos diwethaf, roeddwn wrth fy modd yn gwireddu ein haddewid i ymgynghori ar y ffordd orau i gynllun newydd Llywodraeth Cymru sydd i’w gyflwyno ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf annog mwy o bobl ifanc i ddod ar ein bysiau. A hoffwn bwysleisio’r pwynt a nododd Jeremy Miles, ei bod yn gwbl hanfodol fod y rhai sydd â fwyaf i’w ennill o unrhyw gynllun teithio am bris gostyngol yn ganolog i unrhyw benderfyniad a wnawn. Mae’r ymgynghoriad ar deithio ar fysiau am bris gostyngol ar gyfer pobl iau yng Nghymru yn anelu i gasglu safbwyntiau pobl ifanc, ysgolion, grwpiau cymunedol, colegau, a chwmnïau bysiau ar gynllun sy’n ddeniadol ac yn fforddiadwy—un a all gynnal pobl yn ymarferol yn eu bywydau, yn eu gwaith ac wrth iddynt astudio.
Mae’r ddogfen ymgynghori yn gwahodd sylwadau ar gynnal y ddarpariaeth bresennol neu ymestyn cwmpas y cynllun presennol i gynnwys, o bosibl, codi’r terfyn oedran uchaf, cynyddu lefel y gostyngiad, disodli’r trefniant ad-dalu presennol gan dâl am bob taith, sef rhywbeth a welwn mewn sawl rhan o Ewrop, yn ogystal â chyflwyno ffi fisol neu flynyddol er mwyn cadw teithiau am ddim adeg eu defnyddio. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ystyried ymestyn y cynllun i gynnwys prentisiaid, nad oes ond rhai ohonynt yn gymwys o dan y trefniadau presennol. Mae hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o ymestyn y cynllun i gynnwys gwirfoddolwyr, gofalwyr, pobl sy’n cael lwfans cynhaliaeth addysg, a’r holl bobl ifanc mewn addysg bellach. Ac rwy’n cydnabod manteision cynllun o’r fath i lawer o bobl eraill sy’n cyfrannu’n weithredol yn y gymdeithas neu sydd angen cymorth wrth gychwyn ar yrfa newydd ond sydd heb eu cynnwys o fewn yr oedran cymhwysedd. Dyna pam rwy’n arbennig o awyddus i archwilio faint o archwaeth sydd yna i ymestyn yr oedran teithio am bris gostyngol i 24 oed, gan ein galluogi o bosibl i helpu mwy o bobl ifanc i wneud y gorau o deithio ar fws ledled Cymru. Bydd y cynllun, sydd i’w gyflwyno ym mis Ebrill 2018, yn un sy’n adlewyrchu orau beth yw anghenion a dewisiadau ein pobl ifanc ac yn helpu i roi hwb pellach i deithio ar fws fel opsiwn. Mae hynny’n hanfodol os ydym i greu rhwydwaith bysiau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Yn y flwyddyn ariannol gyfredol, rydym wedi neilltuo hyd at £1 filiwn i gefnogi’r cynllun gostyngiad o draean. Gellir disgwyl i unrhyw welliant ar y cynllun arwain at fwy o gostau ar gyfer digolledu gweithredwyr bysiau dan yr hyn a fyddai’n parhau i fod yn drefniant gwirfoddol. Fodd bynnag, rhaid i weithredwyr sydd am fod yn gymwys i gael arian grant cynnal gwasanaethau bws gynnig y gostyngiad. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol, wrth gwrs, yn golygu na allwn wneud cynllun teithio ar fws am bris gostyngol i bobl ifanc yn orfodol, ac eithrio ar gyfer rhai rhwng 16 a 18 oed mewn addysg amser llawn, ac rwy’n cydymdeimlo’n fawr iawn â’r pwynt a wnaeth fy nghyd-Aelod Jeremy Miles mewn perthynas â’r mater hwn.
Rwyf hefyd yn croesawu cynnig Jeremy Miles o gyfrifiannell i’r Aelodau sy’n meddu ar abacws toredig. Rwy’n credu bod ei ddadansoddiad fforensig ef a Rhiannon Passmore o gynigion y Ceidwadwyr yn dangos bod twll anferthol yn y ffigurau. Fe amlinellaf eto y rhesymau pam nad yw’r ffigurau hynny’n dal dŵr. Ar sail 50 y cant o ddefnydd ar draws y cohort 16 i 24 oed, byddai’r gost yn fwy tebygol o fod yn £78 miliwn neu fwy. Mae hynny’n seiliedig ar 50 y cant o ddefnydd. Nawr, rydym yn gwybod bod y Ceidwadwyr yn cefnogi ein barn y dylai fod mwy o bobl ifanc ar y bysiau, felly gan dybio defnydd, efallai, o 100 y cant, yr hoffai pawb ohonom ei weld, rwy’n siŵr, byddai’r ffigur hwnnw’n codi i dros £150 miliwn. Eto byddai eu cyllideb o £25 miliwn yn caniatáu ar gyfer defnydd o 16 y cant yn unig o bobl rhwng 16 a 24 oed. Yn ei dro, byddai hynny’n cyfateb i oddeutu 17,700 o rai rhwng 16 a 18 oed; yn eironig, yr union ffigur defnydd ag yr oedd y Ceidwadwyr mor feirniadol ohono.
Fodd bynnag, rwy’n llongyfarch y Ceidwadwyr am ymroi i’r ddadl hon mewn modd hynod o gydweithredol. Rwy’n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn eu bod wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw i dynnu sylw at faint y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ac yn bwriadu ei wneud i gefnogi pobl ifanc ar draws ein holl gymunedau. Fodd bynnag, rwy’n credu y buasai pawb yn y Siambr hon yn derbyn bod disgwyl i bob person ifanc gael ei amddifadu o fanteision car ar gyfer ei holl deithiau yn afrealistig yn ôl pob tebyg. Ond mae’n gwbl realistig, Llywydd, i lawer o bobl ifanc ddefnyddio’r bws ar gyfer mwy o’u teithiau, ac rwy’n gobeithio y bydd nifer o bobl ifanc y mae eu profiad o deithio ar fysiau wedi ei gyfyngu i’r daith ddyddiol i’r ysgol ac oddi yno yn manteisio ar y cynllun newydd i roi cynnig ar ddefnyddio’r bws am resymau eraill, ac ar ôl gwneud hynny, y byddant yn gweld bod bysiau heddiw’n gynnig deniadol mewn gwirionedd.
Tra bo lleihau cost teithio ar gyfer pobl ifanc yn flaenoriaeth i annog defnydd, rwy’n derbyn mai rhan o’r ateb yn unig ydyw. Mae darparu cynnyrch bws sy’n ddeniadol a hefyd yn effeithlon yr un mor hanfodol, a bydd unrhyw un sydd wedi defnyddio bws yn ddiweddar, rwy’n credu, yn cydnabod bod y mwyafrif helaeth o gerbydau ar ein ffyrdd yn cynnig amgylchedd glân, cyfforddus ac wedi ei gyfarparu’n dda. Eto i gyd, yn anffodus, ceir argraff anghywir o hyd fod bysiau rywsut yn berthynas dlawd i’r car modur preifat. Os bu hyn erioed yn wir, yn bendant iawn, nid yw’n wir mwyach.
Rwyf wedi gofyn i’r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, sy’n cynrychioli’r diwydiant bysiau, ddatblygu cynigion ar gyfer ymgyrch farchnata i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i rwydwaith bysiau heddiw, ac yn amodol ar eu cynigion, buaswn yn gobeithio rhoi arian cyfatebol tuag at eu cyfraniad ariannol i unrhyw ymgyrch o’r fath er mwyn rhoi hwb i nawdd. Bydd y cynllun newydd y bwriadaf ei gyflwyno ym mis Ebrill yn ffordd well a mwy deniadol o annog pobl ifanc i ddefnyddio’r bws ar gyfer mwy o’u teithiau. Mae’r cynllun presennol wedi dechrau’n dda, ond mae angen inni wneud rhagor os ydym am newid agweddau.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r uwchgynhadledd fysiau a gynhaliais ym mis Ionawr, ac rwy’n falch o ddweud bod nifer o weithdai’n digwydd yn yr hydref i ystyried y ffordd orau o wella profiad teithwyr mewn arosfannau bws trwy ddarparu gwell cyfleusterau a gwybodaeth gyson i deithwyr; sut y gallwn hefyd ddatblygu atebion ariannu sy’n cynnig mwy o sefydlogrwydd i’r diwydiant bysiau yng Nghymru; a sut y gallwn ddarparu system drafnidiaeth integredig sy’n darparu gwell hygyrchedd ac atebion tocynnau sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Dyma ein huchelgais, a dyma y dymunwn ei gyflawni. Diolch.